Skip to main content

https://companieshouse.blog.gov.uk/2020/02/07/dathlu-diwylliant-cymru-trwy-gerddoriaeth/

Dathlu diwylliant Cymru trwy gerddoriaeth

Posted by: , Posted on: - Categories: Cymraeg

Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o ddiwylliant Cymru, y cyfeirir ati’n hanesyddol fel ‘Gwlad y Gân’.

Mae’r berthynas hon â cherddoriaeth yr un mor gryf heddiw, gyda Chaerdydd yn cael ei phennu’n ‘Ddinas Gerdd’ yn ddiweddar, ac yn un o’r dinasoedd cyntaf yn y byd i sefydlu strategaeth swyddogol ar gyfer meithrin ei hecosystem gerddorol drwy ddatblygu trefol.

Hefyd, mae cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chydnabod fwyfwy, yng Nghymru ac o amgylch y byd. Yn 2018, ‘Gwenwyn’ gan y ddeuawd roc Alffa oedd y gân Gymraeg gyntaf i gael ei chwarae mwy na miliwn o weithiau ar Spotify, ac yn ddiweddar, enillodd y record Gymraeg ‘Y Dydd Olaf’ a ryddhawyd gan Gwenno yn 2014 ac a gafodd glod gan yr adolygwyr, y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

Wedi’i greu gan y cyflwynydd a’r darlledwr Huw Stephens yn 2013, mae Dydd Miwsig Cymru’n dathlu cerddorion Cymraeg. Yn ogystal â’r digwyddiadau blynyddol yng Nghaerdydd, caiff digwyddiadau sy’n gysylltiedig â Dydd Miwsig Cymru eu cynnal ar draws y byd.

Cwmniau cerddoriaeth Cymru

Mae Cymru’n gartref i amrywiaeth o fusnesau cerddoriaeth ar hyn o bryd, a Chaerdydd yn boethfan neilltuol.

Ffeithlun yn dangos 'Mae Cymru’n gartref i amrywiaeth o fusnesau cerddoriaeth ar hyn o bryd, a Chaerdydd yn boethfan neilltuol.'
Mae’r map yn dangos gwasgariad y cwmnïau a gofrestrwyd o dan ‘Gweithgareddau recordio sain a chyhoeddi cerddoriaeth’ a ‘Manwerthu recordiadau cerddorol a fideo mewn siopau arbenigol’. Mae fersiwn ryngweithiol o’r map ar gael. Cysylltwch â ni os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd twf yn nifer y cwmnïau cerddoriaeth yng Nghymru, fel y gwelir ar y gofrestr cwmnïau. O’r cwmnïau byw ar y gofrestr, corfforwyd 5 yn 2009 fel ‘gweithgareddau recordio sain a chyhoeddi cerddoriaeth’, o gymharu â 23 yn 2017, 31 yn 2018 a 46 yn 2019. Caiff hyn ei adlewyrchu gan nifer y cwmnïau a gorfforwyd fel rhai ‘Manwerthu recordiadau cerddorol a fideo mewn siopau arbenigol’, lle cafodd 1 ei gorffori yn 2009, o gymharu â 4 yn 2017 a 7 yr un yn 2018 a 2019.

Ffeithlun yn dangos 'Gweithgareddau recordio sain a chyhoeddi cerddoriaeth a manwerthu recordiadau cerddorol a fideo mewn siopau arbenigol'
Mae’r siart hwn yn dangos nifer y cwmnïau a gofrestrwyd fel rhai ‘gweithgareddau recordio sain a chyhoeddi cerddoriaeth’ a ‘manwerthu recordiadau cerddorol a fideo mewn siopau arbenigol’ yn ôl y blwyddyn corffori. Cysylltwch â ni os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch.

Er, yn anffodus, y cafodd rhai cwmnïau eu diddymu, fel Catapult 100% Vinyl yng Nghaerdydd, a fu’n masnachu am 17 o flynyddoedd (cafodd deyrngedau di-ri gan ei gwsmeriaid pan gaeodd), mae nifer y cwmnïau cerddoriaeth Cymraeg yn gyffredinol a ddiddymwyd dros yr un cyfnod yn gymharol isel. Er enghraifft, dim ond 7 cwmni manwerthu cerddoriaeth a ddiddymwyd yng Nghymru dros y chwe blynedd ddiwethaf, o gymharu â’r 20 a sefydlwyd yn yr un cyfnod.

Nid yw hyn yn wir mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig; cafwyd naid fawr yn nifer y diddymiadau yn Lloegr yn 2019 (o 54 yn 2018 i 106 yn 2019).

Spillers Records

Spillers Records sydd yn Ardal Morgan, Caerdydd. Agorodd Spillers ei ddrysau am y tro cyntaf yn y Queens Arcade yn 1894, felly hon yw’r siop recordiau hynaf yn y byd. Ei arbenigedd yn wreiddiol oedd ffonograffau, silindrau ffonograff cwyr a disgiau ffonograff sielac.

Nid yw oes hir Spillers wedi bod heb ei drafferthion, fodd bynnag. Yn 2006, roedd dyfodol y siop eiconig dan fygythiad oherwydd bod costau rhent yn codi, ond diolch yn rhannol i ymgyrch leol a ddenodd gefnogaeth gan artistiaid byd-eang fel Bob Dylan, Bruce Springsteen, Justin Timberlake, Beyonce a’r Manic Street Preachers, cafodd y siop ei hachub.

Recordiau Sain

Wedi’i sefydlu yng Nghaerdydd yn 1969, mae Recordiau Sain wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o adfywio cerddoriaeth werin Gymraeg, ac mae’n dal i gynhyrchu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ar draws amrywiaeth o genres. Mae Recordiau Sain hefyd wedi datblygu Apton, gwasanaeth ffrydio pwrpasol ar gyfer cerddoriaeth o labeli Cymraeg.

Buom yn siarad â Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Recordiau Sain, a soniodd am ffyniant cerddoriaeth yng Nghymru, a’r cyfleoedd unigryw i gerddoriaeth Gymraeg a gynigir gan fod cerddoriaeth ar gael ar lein, gan nodi:

Mae’r sin yng Nghymru wastad wedi bod yn un ffyniannus iawn, ond gyda cherddoriaeth o Gymru, a cherddoriaeth Gymraeg yn benodol, ar gael ar y platfformau ffrydio, mae ei phroffil wedi gwella yn ddiweddar.

Soniodd Roberts am natur unigryw y sin gerddoriaeth Gymraeg a’i gwreiddiau yn niwylliant Cymru.

Mae’r sin gerddoriaeth Gymraeg yn wahanol iawn i’r sin gerddoriaeth Gymreig, yn enwedig yn y genre indie/pop/roc. Mae’r sin gerddoriaeth Gymreig yn dueddol o ddynwared cerddoriaeth brif-ffrwd Eingl-Americanaidd, ond mae’r sin indie/roc Cymraeg yn dal i fod dan ddylanwad diwylliant Cymru i ryw raddau - rhai bandiau a cherddoriaeth yn fwy na’i gilydd.

Mae’r bandiau mwy gwerinol eu naws neu sydd â chanwr-gyfansoddwr, neu’r rhai ‘Cerddoriaeth Byd’ yn defnyddio diwylliant Cymru’n fwy helaeth, ond mae croesi ffiniau’r genres yn digwydd o hyd. Mae’n gyffredin i weld aelodau o fandiau roc enwog yn cystadlu mewn cystadleuaeth corau neu gerdd dant yn yr Eisteddfod.

Gall fod yn her i gerddorion Cymraeg ennill y blaen wrth gystadlu â chynifer o artistiaid eraill, ond mae natur unigryw cerddoriaeth Gymraeg, a’r diddordeb cynyddol yn fyd-eang mewn cerddoriaeth byd – yn enwedig ymysg pobl ifanc, yn rhoi mantais bosibl iddi.

Mae hi wastad yn fwy anodd i fandiau indie/roc Cymraeg dorri trwodd gan eu bod yn cystadlu yn erbyn un o’r sinau cryfaf yn y byd yn Llundain. Mae’n llawer haws i allforio cerddoriaeth Gymraeg sy’n seiliedig ar ddiwylliant Cymru am fod ganddi bwynt gwerthu unigryw, ac mae’r diddordeb mewn ‘Cerddoriaeth Byd’ yn tyfu’n fyd-eang.

Mae cwmnïau fel Recordiau Sain yn dal i chwarae rhan bwysig mewn dathlu diwylliant Cymru - rhan amhrisiadwy o ddiwylliant y Deyrnas Unedig a gweddill y byd.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch Dydd Miwsig Cymru ac am sut i gymryd rhan, ewch i'r wefan neu gallwch wrando ar y rhestr chwarae.

Sharing and comments

Share this page