Skip to main content

https://companieshouse.blog.gov.uk/2021/03/01/cefnogi-busnesau-gydan-gwsanaethau-cymraeg/

Cefnogi busnesau gyda’n gwasanaethau Cymraeg

Posted by: , Posted on: - Categories: Cymraeg

Rydw i wedi bod yn brysur iawn ers cychwyn fy rôl fel Rheolwr Uned yr Iaith Gymraeg.

Sefydlwyd yr uned yn Medi 2020 ac mae wedi'i lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Ein prif nod yw cefnogi pob adran yn Nhŷ'r Cwmnïau i ddarparu gwasanaeth Cymraeg mwy cyson a chodi ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Mae'r Gymraeg yn tyfu ac yn ffynnu yng Nghymru ac ar draws y DU, ac rydym am dyfu ac addasu gyda hi.

Os ydych chi neu'ch busnes am ddefnyddio mwy o Gymraeg, mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu, gwirio a chyngor Cymraeg cyfeillgar a chyflym, rhad ac am ddim.

Cofrestrwch a dechreuwch ddefnyddio mwy o Gymraeg heddiw.

Ers ymgymryd â'r rôl, rydw i wedi bod yn edrych ar y gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu darparu ar hyn o bryd ac yn rhoi systemau ar waith i wella'r ffordd rydym yn gweithredu. Rydym yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i'n holl ddefnyddwyr sydd am gyfathrebu â ni yn y Gymraeg a fy ngwaith i yw sicrhau bod ein cynnig yn un gweithredol a chyson.

Ein gwasanaethau Cymraeg

Ar hyn o bryd gallwch sefydlu (ymgorffori) cwmni ar-lein yn Gymraeg a byddwch yn derbyn tystysgrif ymgorffori ddwyieithog. Gallwch hefyd ffeilio cyfrifon ar-lein yn Gymraeg ac mae ein ffeilio mwyaf cyffredin ar gael fel ffurflenni dwyieithog. Os ydych wedi cysylltu â ni yn Gymraeg, byddwn yn ymateb yn Gymraeg ac mae hyn yn cynnwys cwestiynau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Fel uned, ein rôl yw cefnogi adrannau mewnol drwy ddarparu cyfieithiad ar gyfer amrywiaeth o gynnwys a gohebiaeth, gan helpu i wella profiad cyffredinol y cwsmer. Rydym yn derbyn adroddiadau misol am fusnesau sydd wedi ymgorffori yng Nghymru ac yn gosod marciwr Cymreig yn erbyn pob un. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn derbyn gohebiaeth ddwyieithog o ddechrau cylch oes eu cwmni a gan bob adran ar draws Tŷ'r Cwmnïau.

Rydym hefyd yn cadw cofnod o'r holl gyfieithiadau mewnol a dderbynnir a gohebiaeth a anfonir at gwmnïau allanol. Mae hyn yn ein helpu i greu darlun cliriach o'n gwasanaeth presennol, gyda'r bwriad o ddatblygu ein gwasanaethau Cymraeg ymhellach yn y dyfodol.

Sut rydyn ni'n gwella

Fel rheolwr yr uned, rwy'n eistedd ar baneli prosiect i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn ystod cam cyntaf pob prosiect. Rwy'n gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr polisi i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys fel rhan o'r gwaith o weithredu strategaeth Tŷ'r Cwmnïau.

Yn fewnol, rwy'n defnyddio fy angerdd a'm brwdfrydedd am y Gymraeg i gefnogi ac annog cydweithwyr sydd am ddysgu'r iaith. Mae gennym grŵp ar-lein gweithredol lle rydym yn rhannu syniadau am bob peth Cymraeg ac mae'n wych gweld mwy o gydweithwyr yn ymuno drwy'r amser.

Mae ein gwasanaeth Cymraeg yn un o'r ffyrdd rydym yn cefnogi busnesau drwy'r cyfnod heriol hwn i ac mae'n bwysig i ni ein bod yn gwella'n barhaus.

Rydym bob amser yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i ymuno â'n panel defnyddwyr, a rhoi adborth ar eu profiadau gyda'n gwasanaethau Cymraeg.

Sharing and comments

Share this page